PRODUCER ASSISTANT SCHOLARSHIP 2026 / YSGOLORIAETH CYNORTHWYDD CYNHYRCHU
Overview / Trosolwg
One fully funded trainee place for a Welsh-based or Welsh-speaking producer to join the Pro7ect Spring Retreat at Rockfield Studios, Wales (10–14 March 2026). A partnership between Creative Wales and Pro7ect, supporting emerging Welsh music production talent.
Un lle llawn ei ariannu ar gyfer cynhyrchydd sy’n byw yng Nghymru neu’n siarad Cymraeg i ymuno ag Encil Gwanwyn Pro7ect yn Stiwdios Rockfield, Cymru (10–14 Mawrth 2026). Partneriaeth rhwng Creative Wales a Pro7ect, yn cefnogi talent cynhyrchu cerddoriaeth newydd o Gymru.
About the Scholarship / Ynghylch yr Ysgoloriaeth
This scholarship offers one Welsh-based or Welsh-speaking producer the chance to spend four days at the world-famous Rockfield Studios — shadowing our headline producers Gethin Pearson and Greg Haver, assisting in daily writing sessions and gaining hands-on experience in professional music production, workflow management and technical coordination.
The scholarship includes full board and accommodation at Rockfield Studios, access to all writing rooms and recording facilities, and travel support of up to £50 for the successful applicant.
Mae’r ysgoloriaeth hon yn cynnig cyfle i un cynhyrchydd sy’n byw yng Nghymru neu’n siarad Cymraeg dreulio pedwar diwrnod yn Stiwdios Rockfield enwog ledled y byd — gan ddilyn ein prif gynhyrchwyr Gethin Pearson a Greg Haver, cynorthwyo mewn sesiynau ysgrifennu dyddiol ac ennill profiad uniongyrchol o gynhyrchu cerddoriaeth broffesiynol, rheoli llif gwaith a chydlynu technegol.
Mae’r ysgoloriaeth yn cynnwys llety a bwyd llawn yn Stiwdios Rockfield, mynediad i’r holl ystafelloedd ysgrifennu a chyfleusterau recordio, a chymorth teithio hyd at £50 ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
What You’ll Gain / Beth Fyddwch chi’n ei Ennill
Hands-on production experience with headline producers
Real-world insight into studio workflow and session management
Mentorship, technical guidance and industry connections
Accommodation (twin share) and all meals for the duration of the retreat
Profiad ymarferol o gynhyrchu cerddoriaeth gyda phrif gynhyrchwyr
Gwybodaeth uniongyrchol am lif gwaith a rheoli sesiynau stiwdio
Mentora, arweiniad technegol a chysylltiadau diwydiant
Llety a bwyd am hyd yr encil
Who Can Apply / Pwy All Ymgeisio
Welsh-based or Welsh-speaking producers
Over 18 years old by 10 March 2026
Able to commit to attending the full retreat at Rockfield Studios
Cynhyrchwyr sy’n byw yng Nghymru neu’n siarad Cymraeg
Dros 18 oed erbyn 10 Mawrth 2026
Yn gallu ymrwymo i fynychu’r encil cyfan yn Stiwdios Rockfield
How to Apply / Sut i Ymgeisio
Please complete the application form below, including:
A short bio
A statement outlining why you’d like to take part
Links to one or two examples of your production or mixes (SoundCloud, YouTube, Spotify, etc.)
📅 Applications close: 31 December 2025
📅 Successful applicant announced: 31 January 2026
Llenwch y ffurflen gais isod, gan gynnwys:
Bywgraffiad byr
Datganiad yn egluro pam yr hoffech gymryd rhan
Ddolenni i un neu ddwy enghraifft o’ch cynyrchiadau neu gymysgiadau (SoundCloud, YouTube, Spotify, ac ati)
📅 Dyddiad cau ceisiadau: 31 Rhagfyr 2025
📅 Ymgeisydd llwyddiannus i’w gyhoeddi: 31 Ionawr 2026
Selection Process / Y Broses Ddethol
A shortlist of applicants will be made in early January 2026, and shortlisted candidates will be invited to a brief phone interview before the final selection is made. The successful applicant will be notified by the 31st January 2026.
Bydd rhestr fer o ymgeiswyr yn cael ei llunio ddechrau Ionawr 2026, a gwahoddir yr ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweliad ffôn byr cyn gwneud y dewis terfynol.
Terms & Conditions / Telerau ac Amodau
➡️ Finally, please take a moment to read the terms & conditions in full. As you will need to accept these before submitting the form.
➡️ Yn olaf, cymerwch foment i ddarllen y telerau ac amodau yn llawn. Bydd angen i chi dderbyn y rhain cyn cyflwyno’r ffurflen.